Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Medi 2015
Amser: 09. - 11.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3236
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Aled Roberts AC Keith Davies AC (yn lle Julie Morgan AC) Gwyn R Price AC (yn lle Sandy Mewies AC) David Rees AC (yn lle Jenny Rathbone AC) |
Tystion: |
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Peter Curran, Sports Wales Sarah Powell, Chwaraeon Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Matthew Coe (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) Steve Wyndham (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies oherwydd ei chyfrifoldebau fel un o Gomisiynwyr y Cynulliad (Rheol Sefydlog 18.9). Roedd Gwyn Price yn dirprwyo ar ei rhan.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan a Jenny Rathbone. Dirprwyodd Keith Davies a David Rees ar eu rhan.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Trafododd y Pwyllgor gyfrifon blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, gan holi David Melding AC, Comisiynydd y Cynulliad Dros Dro, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3.2 Cytunodd Claire Clancy i anfon yr Adolygiad Archwilio Mewnol o effeithiolrwydd y Comisiwn, ynghyd â'r cynllun gweithredu sy'n cyd-fynd ag ef.
3.3 Cytunodd Nicola Callow i anfon manylion am y cyllidebau sydd wedi'u neilltuo i'r meysydd gwaith cenedlaethol Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a Pleidleisio@16?.
3.3 Cytunodd Claire Clancy i anfon nodyn ar berfformiad incwm gwirioneddol y Pierhead yn erbyn y perfformiad incwm a ragwelwyd.
4.1 Mae'r tabl a ganlyn yn dangos datganiadau'r Aelodau a wnaed yn ystod yr eitem hon:
Jocelyn Davies |
Merch yn hyfforddwraig chwaraeon |
Mike Hedges |
Aelod o sawl clwb pêl-droed, rygbi a chriced, ac mae rhai ohonynt wedi cael arian gan y loteri |
Keith Davies |
Aelod o glwb rygbi a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Mab yn hyfforddwr rygbi |
Aled Roberts |
Aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Pêl-droed Wrecsam ac yn llywodraethwr ysgol |
David Rees |
Mae pwll nofio sydd mewn perygl o orfod cau yn ei etholaeth |
4.2 Trafododd y Pwyllgor gyfrifon blynyddol Chwaraeon Cymru ar gyfer 2014-15, gan holi Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol a Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid, Chwaraeon Cymru.
5.1 Nododd yr Aelodau Adroddiad Blynyddol cyntaf y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer 2014-15 ynghyd â'r canllawiau a'r fframweithiau.
5.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor awgrymu bod y Pwyllgor nesaf yn ystyried y gwaith y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu ei wneud ar gaffael cyhoeddus yn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
6.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor a sylwadau'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gylch.
6.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad ynglŷn ag ymateb y llywodraeth i argymhellion yr Adroddiad.
7.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wrth y Pwyllgor y byddai'n ysgrifennu at y Cadeirydd yn ddiweddarach yr wythnos hon gyda'i sylwadau.
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
9.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.